Harry Potter and the Chamber of Secrets Dolenni allanol | LlywioCamgymeriadau yn Harry Potter and the Chamber of Secretsgo
Nofelau 1998Harri Potter
Harri PotterJ. K. RowlingEmily HuwsYsgol Hudoliaeth a Dewiniaeth HogwartsSlafennogRon WeasleyHermione GrangerArglwydd Voldemorty Deyrnas UnedigBloomsbury
Harry Potter and the Chamber of Secrets
Jump to navigation
Jump to search
Harry Potter and the Chamber of Secrets | |
---|---|
Clawr papur y llyfr | |
Awdur | J. K. Rowling |
Darlunydd | Cliff Wright |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyfres | Harri Potter |
Genre(s) | Ffantasi |
Cyhoeddwr | Bloomsbury |
Dyddiad cyhoeddi | 2 Gorffennaf 1998 |
Math o gyfrwng | Papur |
Tudalennau | 251 |
ISBN | 0747538492 |
Rhagfl'd gan | Harri Potter a Maen yr Athronydd |
Dilynwyd gan | Harry Potter and the Prisoner of Azkaban |
Harry Potter and the Chamber of Secrets ("Harri Potter a'r Siambr Gyfrinachau") yw'r ail nofel yng nghyfres Harri Potter a ysgrifennwyd gan J. K. Rowling. Nid yw eto wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg, ond cyfieithwyd y nofel gyntaf yn y gyfres, Harri Potter a Maen yr Athronydd, gan Emily Huws yn 2003.
Mae'r stori yn dilyn ail flwyddyn Harri yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts, pan ymddangosai cyfres o negeseuon ar waliau coridorau’r ysgol yn rhybuddio bod y "Siambr Gyfrinachau" wedi ei agor, a bod "etifedd Slafennog" yn mynd i ladd holl ddisgyblion nad ydynt yn dod o deuluoedd dewinol. Dilynir y bygythiadau gan ymosodiadau sy'n gwneud trigolion yr ysgol yn "petrified" (hynny yw, wedi'u rhewi). Trwy gydol y flwyddyn, mae Harri a'i ffrindiau Ron Weasley ac Hermione Granger yn ymchwilio mewn i’r ymosodiadau, a daw Harri wyneb yn wyneb gyda’r Arglwydd Voldemort, sydd yn ceisio adennill grym cyflawn.
Cyhoeddwyd y llyfr yn y Deyrnas Unedig trwy’r Saesneg ar 2 Gorffennaf 1998 gan y cyhoeddwyr Bloomsbury. Er mae’n debyg bod Rowling wedi'i chael yn anodd gorffen y llyfr, enillodd clod uchel gan feirniaid, darllenwyr ifanc a'r diwydiant llyfrau. Er hynny, honnai rhai beirniaid bod y stori’n rhy frawychus ar gyfer plant iau. Mae rhai awdurdodau crefyddol wedi condemnio ei defnydd o themâu hudol, tra bod eraill wedi canmol ei phwyslais ar hunanaberth ac ar y ffordd mae cymeriad person yn ganlyniad i’w ddewisiadau.
Mae nifer o sylwebyddion wedi nodi bod hunaniaeth bersonol yn thema gref yn y llyfr, a'i fod yn mynd i'r afael â materion o hiliaeth trwy drin cymeriadau nad ydynt yn hudol, yn ddi-ddynol a rhai nad ydynt yn fyw. Mae rhai sylwebyddion yn ystyried y dyddiadur yn rhybudd rhag derbyn anfeirniadol o wybodaeth o ffynonellau mae eu cymhellion a dibynadwyedd ni ellir eu gwirio. Ceir bortread o Awdurdodau Sefydliadol fel pethau hunan-gwasanaethu ac yn anghymwys.
Daeth y fersiwn ffilm (a chafodd ei rhyddhau yn 2002) i fod y drydedd ffilm erioed i ennill fwy na $600 miliwn mewn gwerthiannau'r swyddfa docynnau rhyngwladol.
Dolenni allanol |
(Saesneg) Camgymeriadau yn Harry Potter and the Chamber of Secrets
Cyfres Harri Potter gan J. K. Rowling | |||
---|---|---|---|
Maen yr Athronydd | llyfr | ffilm | |
Chamber of Secrets | llyfr | ffilm | |
Prisoner of Azkaban | llyfr | ffilm | |
Goblet of Fire | llyfr | ffilm | |
Order of the Phoenix | llyfr | ffilm | |
Half-Blood Prince | llyfr | ffilm | |
Deathly Hallows | llyfr | ffilm (rhan 1) / ffilm (rhan 2) |
Categorïau:
- Nofelau 1998
- Harri Potter
(window.RLQ=window.RLQ||[]).push(function()mw.config.set("wgPageParseReport":"limitreport":"cputime":"0.132","walltime":"0.224","ppvisitednodes":"value":2236,"limit":1000000,"ppgeneratednodes":"value":0,"limit":1500000,"postexpandincludesize":"value":17319,"limit":2097152,"templateargumentsize":"value":3060,"limit":2097152,"expansiondepth":"value":11,"limit":40,"expensivefunctioncount":"value":0,"limit":500,"unstrip-depth":"value":0,"limit":20,"unstrip-size":"value":0,"limit":5000000,"entityaccesscount":"value":0,"limit":400,"timingprofile":["100.00% 190.245 1 -total"," 53.34% 101.471 1 Nodyn:Gwybodlen_llyfr"," 33.01% 62.802 1 Nodyn:Gwybodlen3"," 25.32% 48.174 1 Nodyn:Eicon_en"," 21.23% 40.380 1 Nodyn:Harri_Potter"," 17.43% 33.159 1 Nodyn:Tnavbar-collapsible"," 17.39% 33.077 1 Nodyn:Teitl_italig"," 9.33% 17.749 82 Nodyn:Gwybodlen3/row"," 2.47% 4.694 1 Nodyn:Bar_llywio"," 2.03% 3.856 1 Nodyn:Eiconiaith"],"scribunto":"limitreport-timeusage":"value":"0.012","limit":"10.000","limitreport-memusage":"value":685542,"limit":52428800,"cachereport":"origin":"mw1326","timestamp":"20190415211903","ttl":2592000,"transientcontent":false);mw.config.set("wgBackendResponseTime":130,"wgHostname":"mw1273"););